Gallai £3 y mis helpu tri phlentyn i fwynhau sesiwn chwarae creadigol gyda’u teuluoedd. Â
Mae’r sesiynau awr o hyd hyn yn llawn hwyl, yn wych ar gyfer magu hyder plentyn ac yn berffaith ar gyfer creu atgofion am byth.Â
Gallai £5 y mis helpu plentyn i gymryd rhan mewn sesiwn therapi cerdd gartref. Â
Mae’r sesiynau hyn yn rhoi i blant sy’n cael trafferth cyfathrebu llawer o hwyl, cyfle i ymlacio ac anghofio am y cyflwr a modd o fynegi ei hun.Â
Gallai £10 y mis helpu pedwar plentyn fwynhau therapi cyflenwol.Â
Mae therapïau fel adweitheg yn cael effaith gadarnhaol iawn ar ein plant, oherwydd eu bod yn helpu i leddfu straen a rheoli eu symptomau. Â
Mae rhoi rhodd bob mis yn gallu bod yn llawer haws i chi ei reoli yn ariannol na rhoi un rhodd fwy.
Dim ond dwy funud mae’n cymryd i drefnu taliad rheolaidd. Ar ôl trefnu hwnnw, byddwn yn derbyn eich rhodd yn awtomatig.Â
Fel rhoddwr rheolaidd, byddwch yn derbyn mwy o wybodaeth am ein gwaith a sut yr ydych yn helpu i newid bywydau.
Bydd eich rhoddion rheolaidd yn caniatáu i ni gynllunio â mwy o hyder a buddsoddi mewn prosiectau tymor hirach.
Os yw’r annisgwyl yn digwydd, fel y pandemig diweddar, gallwch ymateb yn gyflym ac yn effeithiol.Â
Mae taliadau rheolaidd yn golygu ein bod yn talu llai o ffioedd prosesu nag y byddwn am roddion drwy gerdyn credyd.