Archives: FAQs

12.08.2024

Faint o’r gloch mae’r Rasys Tywyll yn dechrau?

Mae’r Rasys Tywyll yn dechrau am 6.30pm.
12.08.2024

Beth sy’n digwydd os na allaf ddod ar y diwrnod?

E-bostiwch events@tyhafan.co.uk os na allwch fod yn bresennol.
12.08.2024

A fydd lluniaeth ar gael yn y Ras Dywyll?

Bydd gwerthwr coffi ar gael fel y gallwch brynu diodydd a byrbrydau.
12.08.2024

A fydd dŵr ar gael yn y Ras Dywyll?

Bydd pob cyfranogwr yn cael potel ddŵr unwaith y bydd wedi gorffen y llwybr.
12.08.2024

Pa mor hir mae’n ei gymryd i gwblhau Ras Dywyll?

Rydym yn amcangyfrif y bydd hi’n cymryd 20 – 55 munud i gwblhau’r llwybr. Ewch ar gyflymder rydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn ei wneud.
12.08.2024

A yw llwybrau’r Ras Dywyll wedi’u marcio?

Bydd swyddogion, conau a saethau yn eich cyfeirio ym mhob rhan o’r llwybr.
12.08.2024

A ganiateir olwynion yn y Ras Dywyll?

Dim ond cadeiriau olwyn, cadeiriau gwthio a phramiau sy’n cael eu caniatáu. Dim sgwteri, beiciau, sglefrfyrddau na ‘rollerblades’ os gwelwch yn dda.
12.08.2024

Sut mae’r Ras Dywyll yn dechrau?

I sicrhau bod digon o le ar y llwybr, bydd y cyfranogwyr yn cael eu cychwyn mewn tonnau. Byddwch chi’n gweithio gyda’ch gilydd fel grŵp teuluol.
12.08.2024

Beth yw’r rheolau yn y Ras Dywyll?

Byddwch yn ystyriol o’r holl gyfranogwyr eraill, rhowch rybudd os ydych yn mynd heibio person arall. Siaradwch â swyddog os oes angen cymorth arnoch ar unrhyw adeg.
12.08.2024

Faint o arian ddylwn i ei godi ar gyfer y Ras Dywyll?

Rydym yn gofyn i chi godi o leiaf £50 fesul teulu, i gefnogi gwaith TÅ· Hafan gyda phlant a’u teuluoedd yn yr hosbis ac yn y gymuned.