Rydyn ni bob amser yma i helpu
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at events@tyhafan.org. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Dyddiad y digwyddiad
14 Medi 2024
Lleoliad
O Benarth i Sili
Ffi mynediad
£5 / £10
Targed nawdd
£100
Bydd y daith gerdded yn dechrau wrth Bier Penarth o 6am. Bydd cerddwyr yn cael cyfle i fwynhau’r wawr a mynd am dro heddychlon ar hyd llwybr yr arfordir, gan hefyd godi arian i Tŷ Hafan.
Y ffi gofrestru yw £10, neu £5 ar gyfer pobl ifanc 16-17 mlwydd oed, a gofynnwn eich bod yn codi o leiaf £100 mewn nawdd. Byddwch yn cael pecyn codi arian a chefnogaeth lawn tîm Tŷ Hafan i’ch helpu i gyrraedd eich targed codi arian yn llwyddiannus.
Gyda’ch cofrestriad byddwch yn cael:
pecyn codi arian a chefnogaeth lawn Tîm Tŷ Hafan i’ch helpu i gyrraedd eich targed codi arian,
diod boeth wrth gyrraedd i’ch cychwyn ar eich taith gerdded,
rhôl brecwast poeth haeddiannol ar ôl i chi orffen y daith gerdded yn Nhŷ Hafan,
crys-t technegol Tŷ Hafan pan fyddwch yn codi £100.
Mae eich codi arian yn trawsnewid bywydau. Ar hyn o bryd, dim ond 1 o bob 10 teulu yng Nghymru sydd angen ein cymorth sy’n cael y cymorth sydd ei angen arnynt drwy gydol bywyd, marwolaeth eu plentyn a thu hwnt. Pan fyddwch yn codi arian ar gyfer Tŷ Hafan, rydych yn mynd â ni gam yn nes at gyrraedd pob teulu yng Nghymru sydd ein hangen, felly nid oes yr un teulu yn wynebu marwolaeth annirnadwy eu plentyn yn unig.
Mae’r daith gerdded tua 6 milltir / 10 cilomedr ar hyd Llwybr Arfordir hardd Cymru rhwng Pier Penarth a Hosbis Plant Tŷ Hafan yn Sili. Dylai cerddwyr fod yn iach ac yn gallu cerdded y pellter yn gyfforddus, weithiau ar dir anwastad.
Oherwydd bod llwybr yr arfodir yn anwastad mewn mannau, yn anffodus nid yw’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.
Gan fod y daith yn hir a’r tir yn heriol dylai’r rhai hynny sy’n cymryd rhan yn y daith gerdded fod yn 16 oed neu hŷn. Caiff pobl ifanc o dan 18 oed wneud y daith am ffi gostyngol o £5 y pen a bydd angen iddynt fod gyda rhywun sy’n 18 neu’n hŷn.
Yn anffodus gan fod rhannau cul o’r llwybr i’r grŵp fynd heibio iddynt, a gan y byddwn yn mynd i mewn i dir yr hosbis ar ddiwedd y daith, ni allwn gael cŵn gyda ni y tro hwn.
Rydym yn bwriadu dechrau’r daith gyda diod boeth ym Mhenarth. Bydd y daith gerdded yn diwedd yn Hosbis Plant Tŷ Hafan gyda rholyn brecwast poeth haeddiannol iawn.
Mae codi arian ar-lein yn ffordd wych o godi arian nawdd. Pan fyddwch yn creu tudalen codi arian ar-lein yn www.justgiving.com chwiliwch am ‘Tŷ Hafan Walk to Remember’ fydd yn cysylltu eich tudalen â’r digwyddiad. Bydd yr arian o Just Giving yn dod i Tŷ Hafan yn awtomatig, felly pan fyddwch wedi creu eich tudalen a’i rhannu gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr, nid oes angen i chi wneud dim bydBaarall.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at events@tyhafan.org. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Notifications