Ras Dywyll Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Disgleiriwch a dewch i weld Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru fel na welsoch chi hi erioed o’r blaen!

Cofrestrwch heddiw!
dark run

Dyddiad y digwyddiad

02.11.2024

Lleoliad

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gaerfyrddin

Nawdd

£50 fesul teulu neu grŵp

Ffi Gofrestru

Tocyn Oedolyn – £10
Tocyn Plentyn – £5

Bydd y ras hwyl arswyd, 2.5 cilometr o hyd â dau lap, yn dechrau yn Sgwâr y Mileniwm. Bydd y llwybr yn mynd â chi drwy’r gerddi, heibio’r nodweddion dŵr, ac o gwmpas y TÅ· Gwydr Mawr – y tÅ· gwydr ag un bwa mwyaf yn y byd – cyn dychwelyd i Sgwâr y Mileniwm am lap arall, os mentrwch chi!

Rydym wedi goleuo rhannau o’r gerddi ar gyfer y digwyddiad hwn, a gallwch ddisgwyl cerddoriaeth ac adloniant ar hyd y ffordd.

Rhedeg, cerdded neu loncian, chi sy’n dewis. Does dim rhaid gwisgo gwisg ffansi ond rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gwneud hynny – dewiswch liwiau neon llachar a gwisg Calan Gaeaf – a byddwn yn rhoi gwobr am y wisg orau!

Bydd cofrestru yn agor am 17:45 a bydd y digwyddiad yn dechrau am 18:30. Nid oes terfyn amser ar gyfer cwblhau’r cwrs.

Cofrestrwch heddiw!

Lawrlwythwch eich ffurflenni nawdd isod:

Saesneg

Cymraeg

dark run

Gofynnwn i bob teulu neu grŵp geisio codi o leiaf £50.  Bydd pob ceiniog y byddwch yn ei chodi yn helpu Tŷ Hafan i gyrraedd mwy o blant a theuluoedd sydd ein hangen ni.

Ar y dydd, byddwch yn cael:

Mynediad i ddigwyddiad â thocyn

Swyddogion ar bob cam o'r llwybr

Ffon larchar fawr

Medal arbennig

Cymorth codi arian

Mynediad at grŵp Facebook y Rasys Tywyll

Ras Dywyll – Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Gwybodaeth bwysig

Rhaid i bob plentyn fod gydag oedolyn sy'n cymryd rhan

Caiff pob oedolyn fod ag uchafswm o dri phlentyn

Rhaid i bawb ddod â thortsh pen (gallwch archebu un wrth gofrestru)

Parcio ar gyfer y digwyddiad yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Bydd y caffi ar agor i brynu bwyd a diod

Ni chaniateir cŵn yn y digwyddiad

Mae'r digwyddiad yn hygyrch i gadeiriau olwyn

Toiledau hygyrch a chyfleusterau newid cewyn ar gael

Caniateir cadeiriau gwthio

Yma i helpu

Os oes gennych chi gwestiwn am ein digwyddiad, cysylltwch â’n tîm digwyddiadau ar events@tyhafan.org. Byddant yn ymateb cyn gynted â phosibl.

Barod i Gofrestru?

Gwych! Dim ond ychydig o funudau y bydd yn cymryd.

Cofrestrwch heddiw!

Mae’r Ras Dywyll Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru wedi ei noddi gan Family Fostering Partners.

 

Family Fostering Partners Logo