Taith feicio 200 milltir heriol yw’r digwyddiad hwn fydd yn dechrau o flaen castell canoloesol Caernarfon ac yn gorffen ym Mae Caerdydd dridiau’n ddiweddarach.
Bydd y daith yn dilyn llwybr trwy olygfeydd godidog Parc Cenedlaethol Eryri cyn teithio i lawr arfordir trawiadol canolbarth Cymru wrth droed Mynyddoedd Cambria. O’r fan honno, byddwch yn mynd heibio Cronfeydd Dŵr Cwm Elan ac yn beicio trwy Ardal Hyfforddi Pontsenni ac i Aberhonddu, cyn teithio lawr i Gaerdydd ar y trydydd diwrnod am ddiod haeddiannol a phryd o fwyd i ddathlu!
Mae’r digwyddiad arbennig hwn yn agored i uchafswm o 50 o bobl ac mae’n cynnwys pecyn cymorth gwych i helpu i wneud y digwyddiad mor gyfforddus a phleserus â phosibl. Sicrhewch eich lle heddiw am £100 yn unig ac ymrwymiad i godi isafswm o £1,950 ar gyfer Hosbis Plant Tŷ Hafan.
Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin isod am fwy o wybodaeth, a gallwch hefyd gysylltu â’r tîm drwy ffonio 02920 532 255 neu e-bostio events@tyhafan.org
Cofrestru heddiw