Cymorth profedigaeth  

Os bydd eich plentyn yn marw, mae’n bur debyg y byddwch yn mynd trwy brofiad poenus, dwys ac yn ei chael hi’n anodd dychwelyd i fywyd arferol. 

Yn Tŷ Hafan, gall ein tîm cefnogi teuluoedd arbenigol ddarparu cefnogaeth bwrpasol i chi a’ch teulu i’ch helpu chi i weithio drwy eich galar mewn ffordd sy’n iawn i chi. 

Cymorth profedigaeth

Sut gallwn ni eich cefnogi chi

Yn dilyn marwolaeth eich plentyn, efallai na fyddwch chi’n teimlo fel rhannu eich meddyliau a’ch teimladau, hyd yn oed gyda’ch teulu a’ch ffrindiau eich hun. 

Rydym ni eisiau rhoi gwybod i chi ein bod ni yma i chi ac aelodau eich teulu pryd bynnag y bydd ein hangen ni arnoch chi– diwrnodau, wythnosau, neu hyd yn oed flynyddoedd ar ôl eich colled.  

Gallwn ni weithio gyda’ch teulu i ddod o hyd i’r ffordd orau o weithio drwy eich galar, a gallai hynny fod yn unigol neu mewn lleoliad grŵp. 

Rydym ni’n cynnig ein cymorth profedigaeth cyhyd ag y byddwch chi ei hangen. Rydym ni’n deall bod galar yn wahanol i bob person a does dim ffordd gywir neu anghywir o alaru.  

Yma i’ch cefnogi chi 

Os hoffech chi fanteisio ar ein cymorth profedigaeth, cysylltwch â’n tîm cymorth i deuluoedd ar 02920 532200 neu ar  familysupport@tyhafan.org.

Mae’r cymorth profedigaeth yr ydym ni wedi’i gael wedi bod yn hollol wych. Mae tîm Ieuan wedi parhau i ddarparu cymorth amhrisiadwy

- Tracey

Mae’r digwyddiadau coffa yn rhan annatod o’n cefnogaeth a’n lles ac mae aros yn rhan o deulu’r hosbis yn golygu cymaint i ni.

Mae gwybod y gallwn ni ddathlu bywyd fy mhlentyn ddwywaith y flwyddyn ymhlith y rhai sy’n ‘deall yn llwyr’ yn amhrisiadwy.

Cofio eich plentyn 

Rydym ni’n deall y bydd eich plentyn yn eich calon am byth ac y gallech fod yn chwilio am ffyrdd arbennig o’i gofio a’r amseroedd gwerthfawr y gwnaethoch chi eu rhannu gyda’ch gilydd.

Dyma pam yr ydym ni’n cynnig amrywiaeth o ffyrdd i deuluoedd ddangos eu cariad at eu plentyn a’r atgofion na fyddwch chi byth yn eu hanghofio. 

Carreg fach wedi’i cherfio

Gallwch chi gael carreg fach arbennig Tŷ Hafan wedi’i cherfio ag enw eich plentyn. Yna gallwch fynd â’r garreg fach adref neu’i rhoi yn ein gardd goffa hardd, y mae llawer o deuluoedd mewn profedigaeth yn ymweld â hi i fyfyrio’n dawel. 

Cân aderyn wedi’i phersonoli 

Mae gennym ni brosiect arbennig o’r enw These Names Will be Forever in Our Skies. Mae’n rhoi cyfle i chi gael cân aderyn unigryw wedi’i chreu ar gyfer eich plentyn, sy’n cael ei chwarae yn ein gardd goffa. Gellir hefyd lawrlwytho’r gân hon i’ch ffôn er mwyn i chi allu gwrando arni pryd bynnag y byddwch chi eisiau.

Gwasanaethau cofio 

Rydym ni’n cynnal gwasanaeth cofio yn ein hosbis yn yr haf a gwasanaeth canhwyllau adeg y Nadolig. Mae’r gwasanaethau hyn yn ddigwyddiadau y cewch eu mynychu cyhyd ag yr hoffech chi ar ôl marwolaeth eich plentyn. 

Llyfr atgofion 

Mae croeso i chi ychwanegu tudalen deyrnged bersonol i’n Llyfr Atgofion, sy’n cael ei adael ar agor i ymwelwyr yn ardal noddfa ein gardd goffa. 

Dysgwch fwy 

Am fwy o wybodaeth ynghylch cofio eich plentyn yn Nhŷ Hafan, cysylltwch â’n tîm cefnogi teuluoedd ar 02920 532200 neu ar familysupport@tyhafan.org 

Mae cefnogaeth emosiynol ar gael heddiw

Os hoffech chi siarad â rhywun ynghylch sut yr ydych chi’n teimlo, gan gynnwys unrhyw ofnau a phryderon y gallech chi fod yn eu hwynebu, gallwn ni helpu.  

Mae gennym ni ymarferwyr cefnogi teuluoedd cymwys iawn sydd â llawer o brofiad o wrando ar rieni plant sydd â salwch sy’n byrhau bywyd.  

Ffoniwch 02920 532200 neu anfonwch e-bost at familysupport@tyhafan.org i drefnu siarad ag ymarferydd  cefnogi teuluoedd heddiw. 

Rydym ni yma i’ch helpu 

O gael gafael ar offer, i ddod o hyd i ysgol, i hawlio cymorth ariannol, gallwn roi cymorth ymarferol arbenigol i chi sy’n gwneud pethau’n symlach ac sy’n gwella ansawdd bywyd. 

Gallwn ni hefyd gysylltu â gwasanaethau a sefydliadau eraill i helpu’ch teulu i lywio’r systemau iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth. 

Dysgwch fwy