“Ganwyd fy mhlentyn canol, Darcy, gyda Syndrom Wolf-Hirschhorn,” meddai Matt Evans, sy’n dad i dri.

“Mae hyn yn golygu bod ganddi oedi datblygiadol. Mae Darcy yn bump oed ond mae hi yr un maint รข phlentyn 18 mis oed. Cafodd ei geni gyda gwefus a thaflod hollt sydd wedi’i gywiro. Bu’n rhaid iddi gael llawdriniaeth ar y galon. Mae ganddi barlys yr ymennydd. Mae ganddi glefyd yr arennau Cam 2. Mae’n cael ffitiau sy’n cael eu rheoli gan feddyginiaeth. Mae ganddi adlifiad difrifol.โ€

โ€œMae gan Darcy gryn dipyn i ymdopi ag ef.โ€

Mae Matt, hyfforddwr cerbydau ar gyfer y DVLA yn byw yn Abertawe gyda’i wraig Fiona, Aubree, 7 oed, Darcy ac Oakley, 3 oed.

โ€œFel teulu mae cyflwr Darcy yn effeithio arnom yn fawr. Allwn ni ddim gwneud y pethau arferol o ddydd i ddydd y mae teulu cyffredin yn eu cymryd yn ganiataol yn hawdd,” meddai.

โ€œEr enghraifft, dydy diwrnod ar y traeth i ni ddim yn golygu pacio ychydig o dyweli, bwcedi a rhawiau. I ni, mae’n golygu mynd รข bygi Darcy, ei chwistrellau, ei bwyd, a’i holl feddyginiaethau y mae angen i ni eu rhoi iddi trwy gydol y dydd. Gallwn wneud pethau, yn sicr, ond nid yw teithiau allan mor syml i ni ag y maent i lawer o bobl eraill.

โ€œNi allaf gofio pwy awgrymodd Tลท Hafan i ni. Rwy’n credu mai un o’r nyrsys cymunedol wnaeth. Wnes i erioed feddwl y bydden ni’n gallu ei ddefnyddio gan nad oedden ni’n meddwl y byddai Darcy yn gymwys.

โ€œOnd fel maeโ€™n digwydd, mi roedd hi. Aethom yno ar gyfer ein hymweliad cyntaf yn 2019, arhosodd y pump ohonom yno fel teulu.

โ€œRoeddem wrth ein boddau. Mae’n teimlo fel cartref oddi cartref. Rydyn ni’n teimlo’n โ€˜normalโ€™ yn Tลท Hafan. Mae’n teimlo fel bod Darcy yn perthyn yno a’n bod ni’n perthyn yno fel teulu. Mae mor groesawgar. Ar ein hymweliad cyntaf, siaradodd Dave, y cogydd, รข ni fel pe baem wedi bod yn mynd yno ers blynyddoedd. Pan gyrhaeddon ni adref doeddem ni ddim yn gallu aros i fynd yn รดl!’

โ€œPan fyddwn yn aros yn yr hosbis mae’n ein helpu ni i gyd gymaint gan fod Darcy yn cael gofal unigol. I rieni fel ni, mae’n help mawr gan ein bod ni’n gallu cael ychydig mwy o orffwys.

โ€œGallwn ni hefyd dreulio amser gyda’n plant eraill, Aubree ac Oakley. Mae chwarae meddal, pwll dลตr, parc y tu allan. Mae fel gwyliau bach i ni.”

Roedd Matt yn un o grลตp o dadau Tลท Hafan a gododd bron i ยฃ50,000 i’r elusen yn ddiweddar trwy ddringo 10 mynydd a beicio rhan o Lwybr Taf mewn 55 awr.

Dywed Matt iddo gael ei ysbrydoli’n arbennig i ymgymryd รข’r her #10nTaff anodd gan y gefnogaeth y mae ef a’i gyd-dadau Tลท Hafan yn ei gael gan yr hosbis yn ogystal ag oddi wrth ei gilydd.

โ€œI mi, nid dim ond yr hyn mae Darcy yn ei gael gan Tลท Hafan yw e,” meddai. โ€œMae am beth rydyn ni i gyd yn ei gael, gan gynnwys fi.

Rwy’n cael cymaint o fudd o allu cael sgyrsiau gyda thadau eraill. Gallwn ni rannu ein profiadau. Mae hyn yn rhywbeth yr oeddwn i’n meddwl y byddai byth ei angen arnaf, ac dydw i ddim yn siarad รข ffrindiau eraill am y math hwn o beth oherwydd nad ydyn nhw’n gallu uniaethu ag ef.

โ€œDwi’n meddwl ein bod ni wedi dod yn bell nawr – mae mwy o ddynion yn siarad am eu teimladau. Dwi’n casรกu’r ymadrodd ‘man-up’.

โ€œCymerodd Gary Speed ei fywyd ei hun. Rwy’n credu, pe bai wedi teimlo bod ganddo un person i allu siarad รข nhw am unrhyw beth, efallai na fyddai wedi teimlo mai dyna’r unig opsiwn iddo.

โ€œI ni dadau Tลท Hafan, gallwn siarad am bopeth!โ€